Tarw wedi lladd dyn 74 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei ladd gan darw yn Llanfair-ym-Muallt.
Fe wnaeth Swyddfa'r Crwner gadarnhau mai'r ffermwr 74 oed, Arthur Thomas, a fu farw wrth iddo geisio llwytho'r tarw ar drelar.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Gallwn gadarnhau bod yr heddlu wedi cael eu galw i fferm yn Llanfair-ym-Muallt nos Iau, Gorffennaf 19, wedi adroddiad bod dyn wedi cael ei anafu gan darw.
"Er gwaetha' help meddygol, bu farw'r dyn yn fuan a bu'n rhaid i blismyn arfog ddifa'r tarw er mwyn diogelwch y cyhoedd.
"Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Chrwner Ei Mawrhydi wedi cael eu hysbysu."
Mae'r crwner eisoes wedi agor, a gohirio, cwest i farwolaeth Mr Thomas.