Team GB 1-0 Uruguay
- Cyhoeddwyd

Team GB 1-0 Uruguay (Dynion)
Roedd cyfraniad y Cymry yn nhîm pêl-droed Prydain nos Iau yn amlwg iawn wrth iddynt gyrraedd rownd yr wyth olaf gan guro Uruguay 1-0.
Bydd tîm pêl-droed Prydain yn awr yn herio De Korea yn y rownd gogynderfynol yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth unig gôl yr ornest i Daniel Sturridge wedi 44 munud o'r gêm.
Roedd Joe Allen yn allweddol yn creu'r symudiad er mwyn i Sturridge rwydo.
Cychwynnodd pedwar o'r pum Cymro yn y garfan y gêm ac roedd capten tîm Prydain, Ryan Giggs, ar y fainc.
Ergyd nerthol
Ddwy funud wedi dechrau'r ail hanner fe wnaeth Bellamy groesi'n gelfydd at Sturridge yn y cwrt cosbi wnaeth fethu â chyfle euraid i ddyblu'r fantais.
Saith munud yn ddiweddarach methodd capten tîm Uruguay, Luis Suarez ag unioni'r sgôr pan arbedodd golwr tîm Prydain, Jack Butland gyda'i goesau.
Cafodd Bellamy ei eilyddio wedi 71 munud a daeth chwaraewr Tottenham, Danny Rose, i'r maes.
Tarodd Ramirez y postyn gydag ergyd nerthol o du allan y cwrt cosbi ym munud ola'r gêm ac arbedodd Butland gic gosb gan Suarez funud yn ddiweddarach ond ofer fu ymdrechion Uruguay wrth i dîm pêl droed Prydain gyrraedd y rownd gogynderfynol.
Yn y gêm arall gafodd ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher fe gurodd Mecsico Y Swistir 1-0.
Team GB: Butland, Richards, Taylor, Caulker, Bertrand, Cleverley, Allen, Ramsey, Sinclair, Bellamy, Sturridge.
Eilyddion: Steele, Rose, Dawson, Giggs, Tomkins, Cork, Sordell.
Uruguay: Campana, Arias, Coates, Rolin, Ramirez, Aguirregaray, Rodriguez, Viudez, Arevalo Rios, Suarez, Cavani.
Eilyddion: Gelpi, Polenta, Albin, Calzada, Hernandez, Urreta, Lodeiro.
Dyfarnwr: Yuichi Nishimura (Japan)
Straeon perthnasol
- 26 Gorffennaf 2012
- 2 Gorffennaf 2012
- 24 Gorffennaf 2012