Tri o bobl ar goll ar Benrhyn Gŵyr.
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau yn chwilio am dri o bobl gafodd eu taflu oddi ar greigiau gan dôn ger Llangennith ar Benrhyn Gŵyr.
Mae dau fad achub, hofrennydd a thimau achub Gwylwyr y Glannau yn chwilio am y tri.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw gan aelod o'r cyhoedd toc wedi 7pm nos Fercher.
Mae'r chwiliad yn parhau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol