Llanc 15 oed wedi marw ar ôl cael ei achub o'r môr

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod llanc 15 oed wedi marw ar ôl i don ei sgubo oddi ar greigiau nos Fercher.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw gan aelod o'r cyhoedd i Langenydd ym Mhenrhyn Gŵyr toc wedi 7pm.

Roedd Gwylwyr y Glannau Abertawe a badau achub o Ddinbych y Pysgod a Phorth Tywyn yn chwilio am y llanc a dyn 21 oed.

Aed â'r ddau i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn hofrennydd ond daeth cadarnhad bod y llanc wedi marw ac mae'r dyn yn parhau yn yr ysbyty.

Roedd y ddau o ogledd orllewin Lloegr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol