Diffyg ymwelwyr mewn gŵyl e-lyfrau
- Cyhoeddwyd

Daeth gŵyl lenyddol i hyrwyddo e-lyfrau a hunan-gyhoeddi i ben yn gynnar ar ôl methu â denu digon o ymwelwyr.
Roedd gŵyl Kidwell-e yn disgwyl tua 25,000 o ymwelwyr i gae ras Ffos Las yn Sir Caerfyrddin y penwythnos diwethaf ond aeth llai na 100.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad y gallai'r gemau Olympaidd a lleoliad yr ŵyl fod wedi effeithio ar nifer yr ymwelwyr.
Ond addawon nhw y byddai'r ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Dechreuodd yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf, ond cafodd ei chanslo am 1pm ar ddydd Sul.
Roedd gan yr ŵyl y nod o ddathlu'r e-lyfr a hefyd darparu llwyfan i awduron oedd â diddordeb mewn hunan-gyhoeddi.
Mae hunan-gyhoeddi yn golygu bod awduron eu hunain yn talu am gostau argraffu a dosbarthu ac, yn wahanol i gyhoeddwyr traddodiadol, nid golygyddion sydd yn penderfynu pa lyfrau sydd yn cael eu cyhoeddi.
Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Julian Ruck, sydd hefyd yn awdur, bod y digwyddiad yn bwysig ar gyfer awduron newydd a gallai fod yn fodd o ddarganfod awdur enwog newydd.
'Y ffordd ymlaen'
Dywedodd: "Heb os nac oni bai dyma'r ffordd ymlaen. Mae'n [hunan-gyhoeddi] democrateiddio ar gyfer darllenwyr.
"Mae'r sefydliad cyhoeddi wedi bod yn penderfynu beth mae pobl yn ei ddarllen a phryd.
"Mae'r farchnad a'r darllenwyr yn dechrau penderfynu nawr, a dyna sut y dylai fod."
Dywedodd Mr Ruck ei bod yn rhy gynnar i ddweud pam nad oedd pobl wedi mynychu'r ŵyl, ond dywedodd bod yr hinsawdd economaidd, y gemau Olympaidd, prisiau'r tocynnau a'r lleoliad anghysbell i gyd wedi chwarae rhan.
"Mae angen edrych ar yr holl bethau yma," meddai.
"Byddwn ni'n dychwelyd y flwyddyn nesaf."
'Dim arwyddion'
Dywedodd Ann Marie Thomas, awdur hunan-gyhoeddiedig o Abertawe a oedd i fod i siarad yn yr ŵyl, ei bod wedi digwydd ar yr 'un penwythnos â Gŵyl Gaws Caerffili yn ogystal â'r gemau Olympaidd.
"Does dim arwyddion yn eich tywys at Ffos Las nes eich bod yn eithaf agos a doedd dim arwyddion yn dweud 'Gŵyl Kidwell-e,'" meddai.
"Doedd dim arwyddion ar faes yr ŵyl a dim dewis bwyd heblaw am fan yn gwerthu byrgyrs.
"Petai 25,000 o bobl wedi troi i fyny byddai wedi bod tipyn o giw am fwyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2011
- Cyhoeddwyd27 Mai 2010
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2009