Tynnu o'r môr: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais ar ôl iddo fod yn anymwybodol yn y môr yn Aberystwyth wedi marw, medd Heddlu Dyfed-Powys.
Aelod o'r cyhoedd alwodd Wylwyr y Glannau tua 8am a'r gred yw bod y dyn 40 oed yn nofiwr profiadol.
Aeth bad achub o Aberystwyth a hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali yn Ynys Môn i'w helpu ond nid oedd angen yr hofrennydd.