Adroddiadau bod Rabi wedi marw yn y môr
- Cyhoeddwyd

Yn ôl adroddiadau, mae Rabi wedi marw wedi iddo fynd i drafferthion yn y môr ger Aberystwyth.
Credir mai Dov Berish Englander, 47 oed, a fu farw, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel aelod uchel ei barch o gymuned Iddewon Uniongred Llundain.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan berson oedd yn aros yng ngwesty Glengower yn y dref ychydig wedi 8:00am fore Iau.
Cafodd bad achub Aberystwyth ei yrru gan Wylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau, ac fe ddaeth hofrennydd o'r Fali ar Ynys Môn i gynorthwyo yn y chwilio.
Llwyddodd y bad achub i dynnu dyn o'r dŵr ac fe'i cludwyd i'r ysbyty.
'Esiampl dda'
Mae papur newydd y Jewish Chronicle yn dweud bod Rabi Berish Englander yn uchel ei barch am ei wybodaeth grefyddol a'i waith elusennol.
Dywedodd y Chronicle ei fod yn perfformio gweithred yn ymwneud â'i grefydd o'r enw mikveh, sy'n golygu ymolchi mewn dŵr sy'n llifo.
Mewn datganiad, dywedodd aelod o gymuned Iddewon Uniongred oedd yn Aberystwyth ar wyliau hefyd ei fod yn nabod Rabi Berish Englander, ac fe dalodd deyrnged iddo gan ddweud: "Roedd yn ddyn cyfiawn ac yn Rabi amlwg iawn iawn yn ein cymuned.
"Roedd yn gosod esiampl dda i bawb. Roedd y math o ddyn y byddech yn mynd â'ch plant i'w gwrdd er mwyn ei ddefnyddio fel esiampl i blant.
"Roedd yn garedig iawn ac yn rhoi arian mawr i elusennau. Bydd colled fawr ar ei ôl i bawb oedd yn ei adnabod."
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys - sydd ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus - fod crwner Ceredigion, Peter Brunton, wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth.