Agor a gohirio cwest Rabi Berish Englander
- Published
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn Aberystwyth i farwolaeth Berish Englander, y rabi 47 oed o Lundain fu farw wedi iddo fynd i drafferthion yn y môr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan rywun oedd yn aros yng Ngwesty Glengower yn y dref ychydig wedi 8am fore Iau.
Cafodd Bad Achub Aberystwyth ei alw a daeth hofrennydd o'r Fali ar Ynys Môn i helpu chwilio amdano.
Llwyddodd y bad achub i'w dynnu o'r dŵr ac fe'i cludwyd i Ysbyty Bronglais lle cadarnhawyd ei fod wedi marw.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Uchel ei barch
Mae papur newydd y Jewish Chronicle wedi dweud ei fod yn uchel ei barch oherwydd ei wybodaeth grefyddol a'i waith elusennol.
Dywedodd y Chronicle ei fod yn perfformio gweithred grefyddol o'r enw mikveh, hynny yw ymolchi mewn dŵr.
Mewn datganiad dywedodd aelod o gymuned Iddewon Uniongred oedd yn Aberystwyth ar wyliau ei fod yn adnabod y rabi.
"Roedd yn ddyn cyfiawn ac yn rabi amlwg iawn iawn yn ein cymuned.
"Yn sicr, roedd yn gosod esiampl dda i bawb. Fe oedd y math o ddyn y byddech chi'n mynd â'ch plant i gwrdd ag e.
"Roedd yn garedig iawn ac yn rhoi arian mawr i elusennau. Bydd colled fawr ar ei ôl i bawb oedd yn ei adnabod."
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Awst 2012