Damwain môr yn Llangenydd: Cyhoeddi enw llanc 15 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r llanc 15 oed fu farw ar ôl i don ei sgubo oddi ar greigiau nos Fercher wedi cael ei enwi'n lleol.
Sam Capper oedd ei enw a'r gred yw ei fod yn ddisgybl yn Academi Prifysgol Penbedw.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw gan aelod o'r cyhoedd i Langenydd ym Mhenrhyn Gŵyr toc wedi 7pm.
Roedd Gwylwyr y Glannau Abertawe a badau achub o Ddinbych y Pysgod a Phorth Tywyn yn chwilio am y llanc a'i frawd 21 oed.
Aed â'r ddau i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn hofrennydd ond daeth cadarnhad bod y llanc wedi marw.
Mae ei frawd yn yr ysbyty o hyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol