Cytundeb Sony i Only Boys Aloud
- Cyhoeddwyd

Mae Only Boys Aloud wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni Sony.
Fe fydd y côr, a sefydlwyd ar gyfer Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010, yn perfformio nos Wener yn Seremoni Agoriadol Eisteddfod Bro Morgannwg.
Daeth y côr o dan arweiniad y cyfarwyddwr cerddorol Tim Rhys Evans i amlygrwydd y tu hwnt i lwyfan y brifwyl drwy raglen talent Britain's Got Talent yn gynharach eleni.
Fe fydd eu halbwm cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Mae 'na 150 o fechgyn yn y côr sy'n rhan o deulu ehangach "y teulu Aloud", Only Men Aloud, Only Kids Aloud a Principality Only Boys Aloud Academi.
Mae'r côr newydd ddechrau recordio ei albwm a fydd yn y siopau fis Tachwedd.
Cefnogaeth
"Mae taith anhygoel Only Boys Aloud yn parhau gyda chytundeb Rentless/Sony Music," meddai Tim Rhys Evans.
"Rydym yn edrych ymlaen at weld be fydd y Boys yn ei wneud yn y stiwdio.
"Rwy'n hynod falch o'r hyn mae'r bois wedi ei wneud hyd yma.
"Rwy'n hyderus y bydd y gefnogaeth angerddol y cawson nhw ar hyd y wlad yn cael ei adlewyrchu yn llwyddiant yr albwm."
Mentoriaid y bechgyn yw Only Men Aloud a gafodd lwyddiant arbennig gyda'u halbwm Band of Brothers.
Fe wnaethon nhw ennill Gwobr Albwm y Flwyddyn yn y Brits ar ôl bod yn rhif 1.
Cafodd y côr hwnnw lwyddiant efo rhaglen Last Choir Standing.
Mae'r cyngerdd agoriadol nos Wener yn yr Eisteddfod wedi gwerthu allan.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn o'n blaen ac mae'r llwyddiant o ganlyniad i'r hyn sy'n cael ei wneud yn y cefndir," ychwanegodd Tim Rhys Evans.
"Mae'r cytundeb yma yn ganlyniad i waith hael ein noddwyr yn ogystal â thalent y bechgyn a'u mentoriaid."