Cylch meithrin: Dedfryd ohiriedig i fenyw o'r Tyllgoed

  • Cyhoeddwyd
Llys (Cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y llys fod Barrett wedi ad-dalu £7,000

Mae menyw 37 oed ddygodd £8,436 oddi wrth gylch meithrin yng Nghaerdydd wedi cael dedfryd ohiriedig.

Cafodd Suzy Barrett o'r Tyllgoed yn y ddinas ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am flwyddyn.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Barrett wedi ad-dalu £7,000 i Gylch Meithrin Pentre-baen.

Roedd hi wedi wedi pledio'n euog i ddwyn pan oedd yn Drysorydd Cylch Meithrin Pentre-baen rhwng Ionawr 2010 a Mehefin 2011.

Roedd y Barnwr Rhanbarthol John Charles wedi gohirio dedfrydu ym mis Chwefror gan y byddai ei dedfryd yn dibynnu ar ei hymdrech i ddigolledu'r cylch.

Trafferthion ariannol

Wrth amddiffyn Barrett, mam i ddau o blant, roedd Aled Watkins wedi dweud ei bod hi wedi cymryd yr arian oherwydd trafferthion ariannol yn y teulu a bod ad-dalu'r arian wedi bod yn "eithriadol o anodd".

O ganlyniad i'r dwyn roedd pobol wedi poeri arni ac wedi gadael erthyglau papur newydd wrth ei drws.

Roedd hi hefyd wedi gorfod arwyddo cytundeb methdaliad gwirfoddol.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr na allai problemau personol gael eu datrys drwy ddwyn arian.

Roedd wedi camddefnyddio safle o ymddiriedaeth ac roedd unigolion eraill wedi dioddef, meddai.

Bydd rhaid iddi wneud 150 awr o waith di-dâl ac ad-dalu'r hyn sy'n weddill i'r cylch meithrin, £1,336.