Morgannwg yn sicrhau mantais yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Logo MorgannwgFfynhonnell y llun, Other

Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar drydydd diwrnod eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerloyw yn Abertawe.

Ar ddechrau'r diwrnod roedd yr ymwelwyr mewn trafferth gyda sgôr o 91 am 7 wiced mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 208.

Er i Marshall (31) a Cockbain (38) ychwanegu 42 rhediad am yr wythfed wiced llwyddodd bowlwyr y tîm cartref i fowlio Sir Gaerloyw allan am 165.

Bowlwyr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd y troellwr Robert Croft a gipiodd 4 am 51 rhediad, Jim Allenby, a gipiodd 3 am 43 rhediad a'r troellwr llaw chwith, Dean Cosker, a gipiodd 2 am 34 rhediad.

Erbyn amser cinio roedd Morgannwg wedi sgorio un rhediad heb golli wiced yn eu hail fatiad, ond fe ddechreuodd wicedi ddisgyn wedi'r egwyl.

Mae'r fantais bellach yn 93 rhediad gydag wyth wiced yn weddill yn eu hail fatiad.

Dim ond un gêm y mae Morgannwg wedi ennill yn y bencampwriaeth y tymor hwn, ond fe allai buddugoliaeth arall eu codi o waelod y tabl (9fed) uwchben Sir Gaerloyw sy'n 6ed ar hyn o bryd.

Morgannwg v. Sir Gaerloyw (trydydd diwrnod)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) - 208

(ail fatiad) - 52 am 2

Sir Gaerloyw: (Batiad cyntaf) - 165

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol