Cwest: Rheithfarn o farwolaeth naturiol
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest nad oedd unrhyw broblem feddygol amlwg ar fachgen 15 oed o Gaerffili fu farw wrth wylio gêm rygbi ar y teledu.
Bu farw Jack Thomas tra'n gwylio gêm Cymru a'r Alban yn nhŷ ei gariad.
Dywedodd y crwner David Bowen fod y bachgen wedi marw o achosion naturiol ond nad oedd modd cofnodi'r union reswm.
Roedd y bachgen 15 oed yn hoffi chwaraeon, ac yn hoff o taekwondo, rygbi a chriced.
Dywedodd tad ei gariad, Richard Brown, fod ei ferch Emily wedi bod yn tynnu lluniau o Jack yn ystod yr egwyl ond wedyn fod rhywbeth o'i le.
Dywedodd fod y bachgen wedi arllwys ei de dros ei drowsus ac yna yn ochneidio.
Ychwanegodd y tad ei fod wedi galw am ambiwlans ar unwaith.
Dywedodd y crwner David Bowen nad oedd unrhyw sôn am ddamwain cyn y digwyddiad, ac na chafwyd unrhyw olion o alcohol na gwaed yn yr archwiliad post mortem.
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth naturiol.