Y nawfed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd

Hannah Mills oedd yr unig Gymraes oedd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd ddydd Sul.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

HWYLIO:

Mae Hannah Mills o Ddinas Powys a Saskia Clark yn ôl ar y brig yn dilyn y chweched ras yng nghystadleuaeth hwylio 470 i ferched yn Weymouth ddydd Sul.

Enillon nhw ras gynta'r dydd mewn amser o 59 munud 09 eiliad, 25 eiliad o flaen Lisa Westerhof a Lobke Berkhout o'r Iseldiroedd.

Roedd Mills a Clark yn llai llwyddiannus yn ail ras y dydd gan orffen yn y chweched safle.

Ond roedd ei ymdrechion yn ddigon da iddynt aros ar y brig, un pwynt o flaen criw Awstralia.

Bydd y cystadleuwyr yn cael diwrnod o orffwys ddydd Llun.

Bydd y ddwy'n cystadlu mewn pedair ras arall ddydd Mawrth a dydd Mercher gan obeithio cyrraedd y rownd derfynol fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Awst 10.

Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC