Y degfed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd

Dydd Llun mae 'na nifer o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

ATHLETAU:

Am 8:45pm nos Lun bydd Dai Greene yn rhedeg yn rownd derfynol y ras 400m dros y clwydi.

Dim ond o drwch blewyn y llwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol. Gorffennodd yn bedwerdydd yn y rownd gynderfynol mewn amser o 48.18 eilad, ond roedd yn un o'r ddau gollwr cyflymaf oedd yn ennill eu lle yn y ras fawr am fedalau.

Greene yw pencampwr y byd, ac yn ymuno ag e yn y rownd derfynol bydd Javier Coulson (Puerto Rico), Angelo Taylor (UDA), Michael Tinsley (UDA), Leford Green (Jamaica), Felix Sanchez (Cuba), Jehue Gordon (Trinidad a Tobago) a Kerron Clement (UDA).

Daeth ymgyrch Gareth Warburton i ben wedi un ras o'r 800m. Cafodd y rhedwr o Gaernarfon ras anodd gyda nifer o redwyr gorau'r byd yn yr un ras. Cafodd berfformiad da gan orffen mewn amser o 1 munud 46.47 eiliad, ond dim ond tri o bob ras oedd yn mynd ymlaen i'r rownd gynderfynol yn syth, a doedd yr amser ddim yn ddigon cyflym i fynd â Warburton drwodd fel un o'r collwyr cyflymaf.

Ni chafodd Warburton ei gynnwys yng ngharfan Prydain yn wreiddiol, ond ef oedd yr unig athletwr i ennill apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â'i gynnwys y Team GB.

DISGEN:

Cafodd Brett Morse gystadleuaeth siomedig wrth daflu'r ddisgen. Nid yw wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol wedi'r tri tafliad cyntaf yn y gystadleuaeth.

Roedd dau dafliad anghyfreithlon gan Morse, ac roedd yr un tafliad cyfreithlon ganddo o 58.18m ddim yn ddigon i'w gadw yn y Gemau Olympaidd.

HOCI:

Mae'r garfan sy'n cynnwys y Gymraes Sarah Thomas wedi sicrahu lle yn y rownd gynderfynol.

Gan i Japan guro China 1-0 roedd Team GB yn gwybod eu bod trwodd cyn iddynt golli 2-1 i'r Iseldiroedd nos Lun.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC