Cynllun marina i adfer tref Porthcawl
- Published
Bydd cyfle i drigolion ac ymwelwyr gael yr olwg gyntaf ar sut y bydd Marina newydd Porthcawl yn edrych mewn arddangosfa a gynhelir trwy gydol mis Awst.
Bydd argraff gan arlunydd, ynghyd â mwy o wybodaeth am y cynllun £3.2 miliwn, yn cael eu harddangos mewn trelar gyhoeddusrwydd ger yr harbwr o ddydd Llun 6 Awst tan ddiwedd y mis.
Mae'r arddangosfa yn nodi dechrau'r prosiect naw mis i ddatblygu'r marina.
Adnewyddu'r harbwr yw cam cyntaf y gwaith adfywio ym Mhorthcawl, ac fe fydd yn cynnwys llifddor newydd gyda phont droed i gerddwyr ac estyniad i'r morglawdd dwyreiniol, gwaith peirianyddol i waliau'r harbwr a system pontydd cychod newydd.
'Gwirioneddol gyffrous'
Fe fydd 70 angorfa ar gael, dros ddwywaith y nifer blaenorol, gan gynnwys rhai ar gyfer ymwelwyr.
Bydd adeilad yr harbwr feistr yn cael ei adnewyddu hefyd.
Datblygwyd y cynllun gan adran peirianneg forwrol Atkins mewn ymgynghoriad â grŵp rhanddeiliaid yr harbwr.
Penodwyd BAM Nuttall, contractwyr ag arbenigedd mewn adeiladwaith morwrol, i gynnal y gwaith adeiladu.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, David Sage: "Mae hon yn garreg filltir wirioneddol gyffrous i Borthcawl.
"Dros y naw mis nesaf byddwn yn gweld yr harbwr yn cael ei drawsnewid yn farina trawiadol a fydd yn gosod y sylfaen ar gyfer adnewyddu parhaus ac yn y dyfodol.
Canolfan ragoriaeth
"Mae ansawdd y prosiect hwn yn ogystal â'r buddsoddiad sylweddol yn pwysleisio pa mor ddifrifol yw ein huchelgais i ddod â Phorthcawl i'r unfed ganrif ar hugain a'i gwneud yn dref glan môr a fydd o fudd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae'r prosiect hefyd yn rhan o gynllun i wneud Porthcawl a Bae Abertawe yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Chwaraeon Dŵr.
Nod y rhaglen yw denu cyfleusterau ger y môr ac ar y môr er mwyn hybu datblygiad arfordir Cymru ar gyfer chwaraeon dŵr.
Bydd arddangosfa Marina Porthcawl ar agor bob dydd Llun 9am - 12pm (ac eithrio gŵyl y banc), dydd Mercher 5pm - 7pm a dydd Gwener 1pm - 5pm tan Awst 31.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Awst 2007
- Published
- 3 Mehefin 2005