Diwrnod 12: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Published
Y Cymry sy'n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ddydd Mercher.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara' i chi o'r campau.
ATHLETAU:
Methodd y gwibiwr Christian Malcolm â chyrraedd rownd derfynol ras y 200 metr nos Fercher.
Fe ddaeth yn drydydd yn nhrydedd ras y rownd gynderfynol mewn amser o 20.51 eiliad ond methodd â chyrraedd y rowndd derfynol o 0.14 eiliad.
HWYLIO:
Mae Hanna Mills a'i phartner Saskia Clark wedi sicrhau medal yn y ras dosbarth 470 i ferched yn Weymouth.
Ar ôl deg ras yn y gystadleuaeth, mae'r ddwy yn gyfartal ar bwyntiau gyda Seland Newydd er mai eu gwrthwynebwyr sydd ar y brig oherwydd canlyniadau unigol.
Bydd un ras arall am fedalau ddydd Gwener felly i benderfynnu pwy fydd yn ennill pa fedalau, ond mae Mills a Clark - enillodd bencampwriaeth y byd yn Barcelona yn gynharach eleni - yn hyderus o gipio'r aur.
HOCI:
Roedd y Gymraes Sarah Thomas yn aelod o dîm hoci merched Team GB wnaeth golli 2-1 i'r Ariannin yn y rownd gynderfynol nos Fercher.
Byddai buddugoliaeth wedi sicrhau medal gyntaf Prydain yn y gamp er 1992, pan lwyddwyd i ennill medal efydd.
Ond fe fydd gan y tîm gyfle i ennill y fedal efydd pan fyddan nhw'n herio Seland Newydd am 3.30pm ddydd Gwener.
Bydd yr Iseldiroedd, y pencampwyr Olympaidd presennol, yn wynebu'r Ariannin yn y rownd derfynol nos Wener.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Awst 2012
- Published
- 1 Awst 2012
- Published
- 31 Gorffennaf 2012
- Published
- 1 Awst 2012
- Published
- 31 Gorffennaf 2012
- Published
- 30 Gorffennaf 2012