Tynnu sylwadau oddi ar Twitter
- Published
Mae'r taflwr disgen Brett Morse wedi tynnu sylwadau dadleuol oddi ar wefan Twitter, sylwadau oedd yn cyhuddo'r taflwr pwysau o Belarws, Nadzeya Ostapchuk, o ddefnyddio cyffuriau.
Ddydd Llun, methodd y Cymro â chyrraedd rownd derfynol y ddisgen a chyhoeddodd ar ei gyfrif Twitter yn ddiweddarach: "Rwyf wedi cael diwrnod gwael ond fe allai fod yn waeth - gallwn i edrych fel Ostapchuk."
Wedyn cyhuddodd yr athletwraig o ddefnyddio cyffuriau.
Dywedodd asiant Morse, Jamie Baulch, wrth y BBC: "Rwy'n mynd i ddweud wrtho am ei dynnu lawr."
Ychwanegodd Baulch, ei hun yn gyn athletwr: "Rwy'n credu bod pobl yn dweud pethau ar Twitter heb sylweddoli pwy sy'n gwrando."
Methu
Roedd Morse, 23 o Benarth, wedi methu yn ei ymgais gynta' ddydd Llun i gyrraedd y pellter angenrheidiol neu fod ymhlith y taflwyr gorau, gan gael fflag goch wrth i'w draed fynd dros ymyl y cylch.
Daeth ei unig dafliad llwyddiannus ar yr ail ymgais ond aeth dros ymyl y cylch unwaith eto ar ei drydydd ymgais a gadawodd y Stadiwm Olympaidd wedi methu â chyrraedd yn agos at ei dafliad gorau o 66.06 metr.
Dywedodd wedi'r gystadleuaeth: "Rwyf yn y siâp gorau eto a dweud y gwir, ac mae fy nhechneg yn llawer gwell ... ond mae hynny'n diflannu adeg cystadlaethau. Mae'n rhwystredig."
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012