Pecyn amheus: Arestio menyw
- Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
Mae menyw 50 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi niwsans cyhoeddus ar ôl i becyn amheus gael ei adael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Mawrth.
Cafodd ei rhyddhau ar fechniaeth a dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymchwiliad yn parhau.