Glaw'n rhoi hwb i Orsaf Hydro Maentwrog

Gorsaf Hydro Maentwrog Image copyright Magnox Hydro
Image caption Mae Gorsaf Hydro Maentwrog yn cynhyrchu trydan gan ddefnyddio'r glaw sydd yn syrthio yn yr ardal o'i hamgylch

Tra ei bod wedi achosi problemau mewn rhannau helaeth o Gymru, mae glaw trwm yr haf cynnar wedi bod yn rheswm dathlu mewn un cornel o Eryri.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud mai Ebrill a Mehefin eleni yw'r ail chwarter gwlypaf yn y DU ers dechrau cadw cofnodion ym 1910.

Yn ystod y glaw bu staff yng Ngorsaf Hydro-electrig Maentwrog yng Ngwynedd yn gweithio oriau ychwanegol gan ddefnyddio'r dŵr i gynhyrchu trydan ychwanegol.

Dywedodd peiriannydd yr orsaf, Andy McAteer, ei bod yn "newyddion gwych" ar gyfer cyflenwadau pŵer.

84 mlynedd

Mae'r orsaf 30 megawat ar lannau'r afon Dwyryd wedi bod yn gweithredu am 84 mlynedd ac mae'n cael ei rhedeg gan Magnox.

Mae'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio dŵr, sydd yn cwympo fel glaw yn yr ardal gyfagos ac sydd yn cael ei gasglu mewn cyfres o afonydd, ffrydiau a nentydd sy'n bwydo mewn i lyn Trawsfynydd.

Mae'r dŵr yn gyrru dau dyrbin sy'n cynhyrchu digon o drydan i bweru tua 12,000 o gartrefi lleol bob blwyddyn.

Yn ystod misoedd yr haf mae cynnyrch trydanol Maentwrog fel arfer yn cwympo, ond mae tywydd eleni wedi achosi i'r cynnyrch godi bron i 150% i fwy na 3,000 oriau megawat.

Ym mis Mehefin mae dalgylch Maentwrog fel arfer yn cael 107mm (4.2 modfedd) o law; ond mis diwethaf cwympodd 307mm (12 modfedd) o law ar yr ardal gydag un gadwyn o fynyddoedd penodol yn recordio 457mm (17.9 modfedd).

"Gwelwyd cyfanswm anhygoel o law eleni," meddai Mr McAteer.

"Rydym wedi gorfod rhedeg yr orsaf am fwy o amser bob dydd er mwyn manteisio ar yr holl ddŵr sydd yn cael ei gasglu o'r ardal leol - sydd yn newyddion da i bawb gan ei fod yn gyflenwad ynni mor gynaliadwy."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.