Medal arall i Gymru
- Cyhoeddwyd

Hannah Mills yw'r diweddaraf o Gymru i ennill medal yn y Gemau Olympaidd.
Fe lwyddodd yr hwylwraig o Ddinas Powys i orffen yn ail yn ras olaf y cychod 470 gyda'i phartner Saskia Clark.
Ar ddiwedd y gyfres o ddeg ras, mae'r ddwy yn gyfartal ar frig y tabl gyda Seland Newydd.
Cyn y ddwy ras ddydd Mercher roedd Mills a Clark yn ail ac fe gafodd Seland Newydd y gorau ohonyn nhw yn y nawfed ras hefyd.
Ond yn y ddegfed ras daeth tîm Prydain yn ail wrth i Seland Newydd gael ras ofnadwy a gorffen yn 18fed.
Fe fydd un ras fedalau ddydd Gwener i benderfynu ar liw'r fedal.
Ym mis Mai fe gafodd y ddwy eu coroni'n bencampwyr byd yn Barcelona ac mae'r gobeithion yn uchel y gallan nhw ychwanegu medal aur Olympaidd at eu casgliad.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2012
- 13 Mehefin 2012
- 19 Mai 2012