Allen: Lerpwl yn gwneud cynnig o £15m

Joe Allen
Image caption Mae Joe Allen wedi bod gyda chlwb Abertawe ers yn naw oed

Mae'r dyfalu'n cynyddu ynglŷn â dyfodol Joe Allen a chlwb pel-drod Abertawe ar ôl i Lerpwl wneud cynnig o £15 miliwn am y chwarae.

Yn 2011, fe arwyddodd Allen gytundeb newydd gydag Abertawe fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan 2015

Ond mae yna gymal yn y cytundeb yn dynodi bod hawl iddo gynnal trafodaethau a chlybiau eraill pe bai yna gynnig o £15 miliwn ac mae disgwyl iddo drafod ei ddyfodol heddiw gyda rheolwr yr Elyrch Michael Laudrup.

Bu'n aelod cyson o'r tîm o'u dyddiau yn Adran un o'r bencampwriaeth tan iddyn nhw chwarae eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr yn 2011/12.

Daeth ei gytundeb proffesiynol cyntaf gydag Abertawe yn 2007

Enillodd ei gap llawn cyntaf i Gymru fel eilydd yn erbyn Estonia yn 2009.