Diwrnod 13: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Published
Y Cymry sy'n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ddydd Iau.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara' i chi o'r campau.
ATHLETAU:
Bydd ail gyfle i Dai Greene a Rhys Williams sicrhau medal wrth i dîm ras gyfnewid 4X400m Prydain rhedeg yn y rownd gyntaf fore Iau. Er bod y ddau yn aelodau o'r garfan, doedd yr un o'r ddau yn y tîm a redodd yn y rownd gyntaf.
Ond llwyddodd y tîm i orffen yn ail a mynd ymlaen i'r rownd nesaf mewn amser o 3'00.38 lle bydd cyfle arall i'r Cymry o bosib.
Bydd rownd derfynol y ras 200m i ddynion am 8:55pm nos Iau, ond ni fydd Christian Malcolm yn cymryd rhan am y trydydd tro yn ei yrfa.
Nos Fercher daeth yn drydydd yn nhrydedd ras y rownd gynderfynol mewn amser o 20.51 eiliad ond methodd â chyrraedd y rowndd derfynol o 0.14 eiliad.
TAEKWONDO:
Mae Jade Jones o'r Fflint wedi trechu prif ddetholyn y byd ac yna pencampwr y byd i ennill medal aur yn y gystadleuaeth Taekwondo.
Mae'r gystadleuaeth Taekwondo i ferched yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl dros un diwrnod.
Roedd ei gornest gyntaf yn y rowndiau rhagbrofol yn gynnar fore Iau, ac fe gafodd fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn ei gwrthwynebydd o Serbia. Yn ôl rheolau'r gystadleuaeth, daw gornest i ben os oes un cystadleuydd yn agor bwlch o dros 11 pwynt dros ei gwrthwynebydd.
Er fod hynny'n ddigwyddiad cymharol brin, fe lwyddodd Jade i fynd 15-1 ar y blaen yn ystod y drydedd rownd, ac fe aeth drwodd i rownd yr wyth olaf yn syth.
Yn y rownd honno am 3:45pm, llwyddodd Jade i guro Mayu Hamada o Siapan, ac roedd hon yn fuddugoliaeth arall gymharol hawdd. Ar ddiwedd y tair rownd, yr ymladdwraig o Gymru enillodd o 13-3.
Ond daeth y cyffro mawr yn y rownd gynderfynol. Roedd Jade Jones yn erbyn Li-Cheng Tseng o Taipei Sieineaidd sef prif ddetholyn y byd.
Wedi dwy rownd roedd Jones ar ei hôl hi o 2-1, ond roedd y drydedd rownd yn llawn drama gyda'r ddwy ochr yn apelio yn erbyn penderfyniadau'r dyfarnwyr.
Gyda Jones yn mynd ar y blaen y raddol fe sgoriwyd wyth pwynt yn y 15 eiliad olaf o'r ornest, a'r Gymraes oedd yn fuddugol o 10-6.
Yn y rownd derfynol cafwyd gornest agos iawn, ond y Gymraes ddaeth i'r brig o 6-4 yn erbyn pencampwr y byd Hou Yuzhuo o China gan ddechrau parti dathlu enfawr yn ei chartref yn Y Fflint.
GYMNASTEG RHYDDMAIDD:
Frankie Jones yw gobaith Prydain yn y gystadleuaeth gymnasteg rhyddmaidd. Mae Frankie (neu Francesca) wedi ennill pencampwriaeth Prydain bump o weithiau ac enillodd fedal arian yn Gemau'r Gymanwlad yn 2010.
Dechreuodd ei ymgyrch Olympaidd fore Iau. Mae pedwar disgyblaeth yn rhan o'r gystadleuaeth, sef y bêl, rhuban, cylch a chlybiau.
Yn dilyn ei pherfformiad caboledig gyda'r bêl a'r cylch, roedd Frankie yn 21ain yn y gystadleuaeth.
Dim ond y deg uchaf fydd yn mynd i'r rowndiau terfynol, ac fe fydd y ddwy ran arall o'r gystadleuaeth yn digwydd ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Awst 2012
- Published
- 1 Awst 2012
- Published
- 31 Gorffennaf 2012
- Published
- 1 Awst 2012
- Published
- 31 Gorffennaf 2012
- Published
- 30 Gorffennaf 2012