Cronfa i'r 'cawr'
- Published
Mae Prifysgol Abertawe yn dathlu cyfraniad unigryw Hywel Teifi Edwards i ddiwylliant Cymru ar eu stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Gwener.
Yno mae'r brifysgol yn cyhoeddi Cronfa Goffa Hywel Teifi Edwards yng nghwmni ei fab, y darlledwr Huw Edwards.
Dywedodd y Brifysgol fod Maes yr Eisteddfod yn lle delfrydol i gyhoeddi'r gronfa gan fod Hywel Teifi yn awdurdod ar hanes y Brifwyl ac yn gefnogwr brwd ohoni.
Bu hefyd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd am flynyddoedd lawer.
Meysydd ymchwil
Prif nod y gronfa yw creu ysgoloriaeth doethuriaeth a fydd yn cael ei chynnig i unigolion addawol sy'n dymuno astudio un o'r meysydd ymchwil oedd o ddiddordeb i Hywel Teifi, sef:-
- Llenyddiaeth Gymraeg y 19eg Ganrif;
- Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol;
- Yr Iaith Gymraeg;
- Y pentref a'r gymuned;
- Gwleidyddiaeth Cymru;
- Chwaraeon, y cyfryngau a drama yng Nghymru.
Ynghyd â'r ysgoloriaeth, bydd y gronfa hefyd yn cael ei defnyddio i greu cofeb barhaol i Hywel Teifi i'w gosod yn yr academi a enwyd er cof amdano ym Mhrifysgol Abertawe.
'Cenhedlaeth newydd'
Dywedodd cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: "Mae'n wych i gael y cyfle unwaith eto yn yr Eisteddfod eleni i sicrhau bod bywyd a gwaith Hywel Teifi'n cael eu cofio.
"Drwy waith Academi Hywel Teifi mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i sicrhau bod meysydd llafur oedd mor gynhyrchiol i Hywel yn parhau i fod yn destunau ymchwil i genhedlaeth newydd o academyddion.
"Mae sefydlu cronfa goffa ac ysgoloriaeth doethuriaeth yn ei enw yn fodd o geisio gwireddu'r freuddwyd honno."
Ychwanegodd Huw Edwards: "Rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn am y datblygiad yma gan Brifysgol Abertawe sy'n adeiladu ar waith a chyfraniad fy nhad, ac yn gofeb deilwng iddo.
"Gobeithiwn y bydd y gronfa yn derbyn cefnogaeth gref, ac y bydd cyfleoedd newydd yn codi i academyddion o ganlyniad i'w sefydlu."
Bydd mwy o fanylion am sut i gyfrannu yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos neu mae modd cysylltu gyda'r Academi.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Awst 2010
- Published
- 20 Ionawr 2010
- Published
- 7 Ionawr 2010