Tirlithriad yn effeithio ar wasanaethau trên Caerdydd

Tirlithriad Image copyright Network Rail
Image caption Digwyddodd y tirlithriad rhwng Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog

Mae tirlithriad wedi effeithio ar rai gwasanaethau trên i Gaerdydd, yn ôl Trenau Arriva Cymru.

Mae wal gynhaliol wedi cwympo rhwng Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog ac ar un adeg roedd pum tunnell o rwbel ar y lein.

Dywedodd Network Rail y byddai'r lein ar gau am hyd at 14 diwrnod wrth i'r wal gael ei thrwsio.

Digwyddodd y tirlithriad nos Iau ac erbyn hyn mae'r brif lein wedi ail-agor ond mae lein y Cymoedd rhwng y ddwy orsaf ynghau.

Lein y Ddinas

Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud bod gwasnaethau o Aberdâr a Merthyr yn teithio o Radur ar hyd Lein y Ddinas i Orsfa Caerdydd Canolog.

Bydd gwasanaethau o Dreherbert yn mynd i Orsaf Heol y Frenhines ac yn stopio ym Mae Caerdydd ond ddim yn mynd i Gaerdydd Canolog.

Dywedodd y cwmni y byddai Gorsaf Heol y Frenhines ar agor nos Wener ac y byddai trenau'n mynd i Rymni, Caerffili a Coryton.

Dylai cefnogwyr y gêm bel-droed Olympaidd sydd am deithio fynd i Orsaf Heol y Frenhines nos Wener.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.