Galar ar ôl ei dad i Brifardd Cadeiriol
- Published
Wrth ei gyfrifiadur, yng nghornel Ystafell y Wasg ar Faes yr Eisteddfod, y treuliodd Dylan Iorwerth y rhan fwyaf o'i ddydd Gwener yn gweithio'n ddiwyd - a chuddio'i gyfrinach fawr rhag llond 'stafell o newyddiadurwyr eraill.
Hawdd edrych yn ôl yn awr a dehongli, tybed bod rhyw arwyddocâd yn y ffaith iddo ddewis bwrdd mor agos at y drws ac oedd yn bosibl!
Ond wedi seremoni'r Cadeirio dywedodd mai cadw'r gyfrinach rhag eraill ar y Maes fu fwyaf anodd - nid rhag ei gyd-newyddiadurwyr.
"Mae'n rhaid bod y wasg yn mynd yn llai chwilfrydig a does yna ddim sïon y dyddiau hyn... er bod yna rai o'r tu allan ac ar y Maes.
"Wrth gyfarfod pobol ar y Maes yr oeddwn yn ei chael yn anodd," meddai.
Cerddi a gyfansoddwyd pan oedd yn ceisio "gwneud sens" o'r profiad o golli ei dad a enillodd y Gadair i Dylan Iorwerth.
'Profiad cymysg'
A dywedodd Ieuan Wyn, un o'r tri beirniad gyda Huw Meirion Edwards a Mererid Hopwood, mai dyma'r unig un o 10 yn y gystadleuaeth iddo ystyried y gellid ei Gadeirio.
Disgrifiodd y cerddi fel rhai oedd yn "gyforiog o gyffyrddiadau effeithiol".
Ac wrth draddodi'r feirniadaeth cyfeiriodd Mererid Hopwood at weledigaeth ddwys.
Ac yntau'n derbyn ei drydedd brif wobr 'Steddfodol dywedodd bod y profiad yn un cymysg y tro hwn oherwydd cefndir y cerddi - fel ag yr oedd pan enillodd y Goron gyda cherddi a gyfansoddodd yn dilyn marwolaeth ffrind.
"Roedd yna gymysgedd o deimladau," meddai wedi'r seremoni heddiw.
"Rhywfaint o chwithdod ond hefyd balchder wrth gwrs."
Am y sbardun i 'sgrifennu dywedodd: "Yr oeddwn i angen 'sgwennu rhywbeth mae'n siŵr er mwyn gwneud dipyn bach o sens o'r peth; a digwydd bod, fod y testun yma wedi rhoi rhyw fath o gyfle i mi wneud hynny.
"Oni bai am y testun efallai na fyddwn i wedi 'sgwennu ond mi wnaeth o les i mi, beth bynnag," ychwanegodd.
Ond eglurodd nad cerddi'n ymwneud yn uniongyrchol â marwolaeth ei dad sydd yn y dilyniant.
"Dydy hi ddim yn llythrennol am farwolaeth fy nhad.
Gyrru i'r Wyddgrug
"Mae rhai o'r cerddi yn codi yn uniongyrchol o'r profiad ond mae yna rai eraill lle'r ydw i wedi defnyddio ychydig bach o ddychymyg; er enghraifft rwy'n son am glirio'r tŷ ond dyda ni ddim wedi clirio'r tŷ achos bod Mam yn dal yno, ac mae rhai o'r pethau yn ymwneud â Nhaid ac mae'r cyfan yn gymysg.
"Peth arall yn y gerdd ydi esblygiad. Dyna ydi'r môr. Yn symud ymlaen, yn dod yn ôl trwy'r amser, yn dewis rhai pethau ac yn cadw rhai pethau a dyna sut yr ydym ni wedi datblygu i fod fel rydan ni ac mae hynny yn wir mewn teulu hefyd," meddai.
Ym mis Chwefror y bu farw ei dad ac wedi chwe diwrnod o gyfansoddi dwys dywedodd Dylan Iorwerth mai dim ond cael a chael fu hi cyflwyno'r gwaith cyn y dyddiad cau a hynny'n golygu gyrru mewn car i swyddfa'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug.
Dywedodd yr ystyriai yn ddyletswydd cystadlu gan mai'r testun â'i sbardunodd i sgrifennu yn y lle cyntaf.
"Achos oni bai am y testun fyddwn i ddim wedi 'sgwennu."
Ynglŷn â chipio'r tair gwobr fawr 'steddfodol dywedodd: "Nid bod rhywun yn mynd ati yn fwriadol i wneud hynny ond digwydd bod fy mod i'n lecio 'sgwennu mewn gwahanol ffurfiau ac wedyn mae o'n gweithio wedyn yn dydi," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at arwyddocâd arbennig ennill y gadair.
"I unrhyw un sydd wedi cynganeddu, neu wedi bod yn trio cynganeddu ers blynyddoedd, mae ennill y Gadair yn rhywbeth arbennig ac wrth gwrs dim ond yng Nghymru y gallwch chi wneud hynny.
"Mae o yn rhan o'r traddodiad ac yn naturiol yn fath o binacl hefyd," meddai.