Dim llwyfan i Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn

  • Cyhoeddwyd
Geraint Lloyd Owen
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Geraint Lloyd Owen yn siomedig

Mae un o gyn-feirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn wedi dweud bod angen trafod y gystadleuaeth wedi i neb gyrraedd y llwyfan eleni.

Un yn unig wnaeth droi fyny i gystadlu yn y gystadleuaeth yn y rhagbrawf ddydd Sadwrn.

Wnaeth y gystadleuaeth ddim symud yn ei blaen i'r llwyfan.

I Geraint Lloyd Owen, a oedd yn adnabod Llwyd o'r Bryn (Bob Lloyd), roedd 'na deimlad cyffredinol o siomedigaeth.

"Roedd dylanwad Bob Lloyd mewn sawl maes yn ddwfn arna i," meddai.

"Pe byddai o gwmpas heddiw fe fyddai'n siomedig iawn fel finne.

"Ers i'r gystadleuaeth gychwyn yn 1963 mae gwahanol bwyllgorau eisteddfod wedi edrych ar y wobr, a ddylai fod yn brif wobr y llefarwyr ac wedi ei gwthio fan hyn a fan draw a thrio gwahanol bethau.

"Dwi'n gobeithio nad dyma ddiwedd Gwobr Llwyd o'r Bryn.

"Ond y cychwyn ydi cael beirniaid ac arbenigwyr y maes i eistedd i lawr i bwyso a mesur y ffordd ymlaen."

Siom

Pedwar yn unig sydd wedi ennill y wobr ddwywaith ers 1963, Stuart Jones, Brian Owen, Sian Teifi a Carwyn John.

"Mae'n gryn dristwch i mi nad yw'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal eleni," meddai Carwyn John, enillydd y wobr ddwywaith.

"Mae'n un o brif wobrau'r llefarwyr, dyma ruban glas y llefarwyr. Does 'na ddim geiriau i egluro'r siom nad oes 'na gystadleuaeth eleni, a oedd yn ei dydd â bri.

"Efallai bod 'na amser i'r swyddogion yr Eisteddfod edrych ar amser y gystadleuaeth â'r dewisiadau ac amodau'r gystadleuaeth."

Dim ymyrraeth

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod bod y gystadleuaeth wedi ei chynnal yn y rhagbrawf ond yn anffodus dim ond un wnaeth droi fyny i gystadlu.

"Rydym yn cyflogi beirniaid i wneud job o waith ac yn ymddiried ynddyn nhw i wneud y gwaith hwnnw.

"Gan y beirniaid y mae'r gair terfynol a dydyn ni ddim yn ymyrryd. Os ydyn nhw'n dweud nad oes neb yn deilwng yna neb yn deilwng.

"Dydyn ni ddim yn gweld bod amser y gystadleuaeth yn gwneud unrhyw ronyn o wahaniaeth i'r niferoedd sy'n cystadlu. Mae hi wedi cael ei chynnal yn y gorffennol ar nos Wener ac wedi ei chynnal ar nos Sadwrn.

"Mae hi hefyd wedi cloi'r Eisteddfod cyn heddiw.

"Mae 'na bedair cystadleuaeth i'r unigolion, rhuban glas y llefarwyr ydi'r Llwyd o'r Bryn, rhuban glas yr alaw werin, y cantorion a'r cerdd dantwyr ac mae amser y gystadleuaeth yn amrywio ac o reswm mae un yn gorfod mynd yn gynnar."