Damwain ffordd ddifrifol yn Sir Gaerfyrddin.
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân ddefnyddio offer arbennig i ryddhau dau o bobl o fan ar ôl damwain gyda beic modur yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin.
Digwyddodd y ddamwain rhwng Llanbed a Phumsaint.
Cafodd yr A482 ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Digwyddodd y ddamwain tua 9am.