Ynys Môn yn diogelu £1.85m i wella safleoedd diwydiannol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau grantiau newydd o Ewrop a Llywodraeth Cymru gwerth £1.5 miliwn i wella a datblygu safleoedd ac adeiladau diwydiannol ar yr ynys.
Bydd yr arian yn galluogi pecyn o welliannau stadau diwydiannol yn ardal Llangefni.
Yn ôl arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Bryan Owen, bydd yr unedau newydd yn ddefnyddiol iawn o ystyried y prinder presennol o adeiladau busnes modern i'w rentu yn yr ardal.
Daw'r grant o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan y Rhaglen Gydgyfeiriant Ewrop ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
'Unedau newydd'
Mae'r cyngor hefyd wedi sicrhau £350,000 o Raglen Adfywio Môn a Menai.
Bydd y pecyn o welliannai yn ardal Llangefni yn cynnwys:-
- adolygiadau stad a chynlluniau gwella
- briffiau datblygu ar gyfer safleoedd allweddol
- gwelliannau amgylcheddol ac arwyddion
- gwelliannau seilwaith
- gweithgareddau marchnata a hyrwyddo i ddenu buddsoddiad a swyddi
- datblygu unedau busnes newydd i'w rhentu
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, "Bydd yr arian yma'n gwneud gwahaniaeth go iawn i isadeiledd ar gyfer busnesau sydd eisiau tyfu a buddsoddi ar Ynys Môn."
Dywedodd Mr Owen y bydd yr unedau newydd yn ddefnyddiol iawn o ystyried y prinder presennol o adeiladau busnes modern i'w rentu yn yr ardal.
Ychwanegodd y Comisiynydd Alex Aldridge: "Bydd y prosiect yn chwarae rhan yn llwyddiant yr Ardal Fenter newydd, ac rydym yn gobeithio gweld gwelliannau seilwaith eraill yn digwydd yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- 5 Gorffennaf 2012
- 18 Mehefin 2010
- 21 Ebrill 2010