Pedwar cynllun yng Ngheredigion yn elwa o £900,000
- Published
Bydd pedwar cynllun yng Ngheredigion yn derbyn bron i £900,000 rhyngddyn nhw i wella a hybu treftadaeth adeiledig a naturiol y sir.
Bydd y prosiectau yn cael eu cynnal yn ardaloedd Aberteifi, Aberaeron, Ynyshir ac Ystrad Fflur.
Mae'r pedwar prosiect sy'n werth cyfanswm rhyngddyn nhw o £892,712 o gyllid o'r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael eu rhedeg gan wahanol gyrff ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Nod y Cynllun Datblygu Gwledig yw cefnogi cefn gwlad a chymunedau gwledig.
Pibydd Coesgoch
Yng ngogledd y sir mae'r RSPB yn ymgymryd â phrosiect treftadaeth naturiol yn ei Gwarchodfa Natur yn Ynys Hir.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adfer tir yn y warchodfa ar gyfer rhywogaethau allweddol o fywyd gwyllt, a'r Gornchwiglen a'r Pibydd Coesgoch yn eu plith.
Bydd y cyfleusterau i ymwelwyr hefyd yn cael eu gwella wrth i faes parcio, platfform gwylio a chuddfan newydd gael eu rhoi yn eu lle.
Bydd cynllun gwylio drwy deledu cylch cyfyng hefyd yn cael ei gyflwyno ar nythaid o grehyrod gleision/grehyrod bach copog.
Mae Swyddog Cyswllt Cymunedol wedi cael ei gyflogi i helpu i wella cysylltiadau'r lleoliad â'r gymuned leol drwy amrywiaeth o weithgareddau yn allanol ac ar y safle.
Yn ne'r sir mae Menter Aberteifi yn rhedeg prosiect treftadaeth forol sy'n cwmpasu de Bae Ceredigion a rhan o Aber afon Teifi.
Abaty'r Mynaich Gwynion
Nod y prosiect, sy'n dwyn yr enw 'Dros y Tonnau', yw codi'r ymwybyddiaeth o dreftadaeth forol hir sefydlog y fro drwy gynnwys cymunedau mewn gweithgareddau megis ymchwil a dehongli.
Mae gwahoddiad i grwpiau cymunedol gymryd rhan mewn ymchwilio i'w hanes lleol gyda golwg ar greu paneli dehongli a gaiff eu lleoli mewn cyfleusterau sydd eisoes yn bod neu ar hyd llwybrau troed i roi gwybodaeth i ymwelwyr a'r gymuned fel ei gilydd.
Hefyd mae'r prosiect yn magu cysylltiadau â theuluoedd a chymunedau alltud a ymfudodd o Aberteifi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn nwyrain y sir mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhedeg prosiect treftadaeth ddiwylliannol ac adeiledig wedi'i seilio o gwmpas hen Abaty'r Mynaich Gwynion, Ystrad Fflur, ym Mhontrhydfendigaid.
Mae'r prosiect yn anelu at fagu cysylltiadau â chymunedau a mentrau lleol i ennyn diddordeb yn amgylchedd adeiledig a naturiol hanesyddol yr ardal ac atgyfnerthu eu cyfraniad at ei gynnal a'i wella.
Straeon digidol
Fel rhan o raglen 'Cloddiad Cenedlaethol Cymru' y Brifysgol mae cloddio mawr wedi bod yn ystod y ddau haf diwethaf i ddadorchuddio'r Porthdy ac mae hyn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i archeolegwyr a haneswyr o wir faint a phwysigrwydd yr Abaty.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored a digwyddiadau i arddangos safle'r Abaty a'r ardal o'i gwmpas fel atyniad i ymwelwyr.
Yng ngorllewin y sir mae Cymdeithas Aberaeron yn rhedeg prosiect treftadaeth gymdeithasol yn nhref Aberaeron a'r cylch.
Adeiladu y mae'r prosiect ar waith y Gymdeithas yn ystod y pum mlynedd diwethaf ers dathlu'r deucanmlwyddiant yn 2007.
Mae'r tîm yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddatblygu adnoddau digidol er mwyn casglu straeon ac atgofion pobl.
Bydd llwybr rhithwir o amgylch y dref yn defnyddio'r lluniau a'r straeon digidol gyda'i gilydd a bydd y catalog o luniau ar gael ar lein fel casgliad cenedlaethol chwiliadwy a fydd yn rhoi mwy o fynediad at y casgliad o luniau sydd ar gadw gan y Gymdeithas.