Holi barn am asiantaeth newydd
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ynghylch sut y dylai'r corff newydd fydd yn rheoli adnoddau naturiol Cymru yn cael ei redeg a pha bwerau a dyletswyddau y dylai eu cael.
Bydd y corff newydd yn dod i rym ar Ebrill 1 2013, ac yn cymryd lle Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Bydd yr ymgynghoriad, a lansiwyd gan Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, ddydd Llun yn para am wyth wythnos.
Yn ôl y llywodraeth, amcan y corff newydd fydd "rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd mor gynaliadwy ac effeithiol â phosib, gweithio mewn ffordd symlach a mwy di-lol ac osgoi dyblygu gwaith."
Gallai'r newidiadau arfaethedig arbed hyd at £158 miliwn dros 10 mlynedd, yn ôl Gweinidogion.
Amheuon
Ond mae rhai - gan gynnwys pwyllgor o Aelodau Cynulliad a chwmnïau masnachol - wedi codi pryderon am y corff newydd.
Maen nhw'n cwestiynu p'un ai fydd yr asiantaeth newydd yn gwarchod natur a helpu'r economi ai peidio.
Dywedodd John Griffiths: "Bydd gan y corff newydd ran bwysig iawn i'w chwarae i ddiogelu iechyd amgylchedd Cymru a'i heconomi, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud pethau'n iawn.
"Rhaid i'r corff newydd wneud gwaith y tri chorff presennol o ran diogelu amgylchedd naturiol Cymru, cynnal ei dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol a gofalu bod cefn gwlad a'r arfordir ar gael i bawb.
"Cyn bwysiced, bydd angen iddo ddatblygu i wynebu heriau'r dyfodol.
"Rwyf am fod yn siŵr fod gan y corff newydd ddyletswyddau a phwerau clir iddo allu cyflawni dros Gymru.
"Bydd yr ymgynghoriad ychwanegol hwn yn rhoi safbwyntiau pellach i'n helpu i lunio'r corff newydd ac rwyf am annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu."
Dwy ran
Caiff yr ymgynghoriad ei rannu'n ddau, gyda'r rhan gyntaf yn edrych ar ddyletswyddau cyffredinol y corff newydd ac yn benodol ar y rheiny sy'n ymwneud â harddwch naturiol, cadwraeth, mynediad, diogelu'r dirwedd hanesyddol a choedwigaeth.
Dyma'r dyletswyddau fydd yn cael eu dwyn ynghyd a'u cyfuno yn hytrach na dim ond eu trosglwyddo.
Bydd ail ran yr ymgynghoriad yn ystyried trefniadau gweithio a chyfreithiol y corff.
Mae peth gwaith ymgynghori eisoes wedi'i gynnal ar drefniadau sefydlu'r corff newydd a sut y dylid ei gyfarwyddo.
Bydd yr ymgynghoriad diweddara' yn para tan Hydref 5 a bydd ei ganlyniadau'n helpu i lunio'r Ail Orchymyn a ddaw i rym ddechrau mis Ebrill, pan ddaw'r corff newydd i rym.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Ebrill 2012
- Published
- 25 Tachwedd 2011
- Published
- 26 Medi 2011