Rhai'n haeddu gwasanaeth plismona gwell

Police officers on beat Image copyright PA
Image caption Dywedodd awdurdod yr heddlu eu bod yn annog gonestrwydd ymysg eu staff

Mae bron un o bob tri phlismon a staff Heddlu Gogledd Cymru yn credu bod rhai dioddefwyr troseddau'n haeddu gwasanaeth gwell nag eraill.

Mewn arolwg, roedd mwy nag un o bob pump yn dweud bod rhai cymunedau yn gwneud nemor ddim i ennyn parch yr heddlu, ac roedd chwarter yn credu bod cynorthwyo rhai pobl yn wastraff amser.

Daeth canlyniadau arolwg staff i'r amlwg yn dilyn cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth.

Dywedodd Awdurdod yr Heddlu eu bod yn annog gonestrwydd ymysg y gweithlu.

Mae dros 1,000 o blismyn a 700 o staff sifil wedi ymateb i'r arolwg oedd yn ystyried agweddau tuag at y cyhoedd, y llu a bodlonrwydd yn y gwaith.

Ymysg canlyniadau'r arolwg, roedd:

  • 30.5% yn credu bod "rhai dioddefwyr yn fwy haeddiannol o wasanaeth da nag eraill";
  • 22.6% yn cytuno bod "rhai cymunedau yn gwneud bron dim i ennyn parch gan yr heddlu";
  • 25.7% yn cytuno gyda'r gosodiad: "Mae'n wastraff amser ceisio helpu rhai pobl";
  • 78.3% yn credu bod Heddlu Gogledd Cymru "yn sefydliad da i weithio iddo".

'Heriol'

Dywedodd Nia Evans, is-gadeirydd Awdurdod heddlu Gogledd Cymru: "Fe wnaed arolwg diwylliannol y llynedd mewn cyfnod heriol i'n gweithlu, ac ers hynny rydym wedi gweithredu i gefnogi ein staff a swyddogion.

"Mae'r awdurdod yn gyson wedi adolygu'r cynnydd gan yr heddlu ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau'r arolwg diweddaraf ar ddiwedd eleni."

Mae Richard Eccles yn aelod o Ffederasiwn yr Heddlu, sy'n cynrychioli plismyn, a dywedodd: "Os ydych yn blismon sydd wedi cael ei alw i ffrae feddw yn yr un cyfeiriad am y trydydd tro mewn wythnos, fe fydd gennych farn wahanol i alwad cyntaf i berson oedrannus sydd wedi cael rhywun yn torri mewn i'w cartref.

"Dyma beth yr ydym wedi ceisio egluro i awdurdod yr heddlu."

Ychwanegodd bod barn ar faterion fel plismona rheng flaen ac arweiniad yn adlewyrchu newidiadau yn y modd y mae'r heddlu'n cael ei redeg.

Ond pwysleisiodd nad oedd hyn yn negyddol i'r heddlu, ac nad oedd modd i reolwyr y llu ennill weithiau.

'Ymateb gwych'

Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Ian Shannon bod yr arolwg yn cynorthwyo'r heddlu i "gael gwell dealltwriaeth o'n gweithlu a diwylliant ein cyfundrefn," ac y gallai'r canlyniadau gael eu defnyddio wrth drafod sawl mater.

Dywedodd: "Roedd ymateb gwych i arolwg y llynedd, ac mae'r canlyniadau wedi bod yn gyhoeddus ers tro - cafodd nifer o bethau eu gweithredu o ganlyniad i'r materion a godwyd.

"Mae trefniant ein gwaith wedi newid eto ers hynny, ac fe fydd yn ddiddorol gweld canlyniadau'r arolwg staff diweddaraf.

"Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy'n agored a thryloyw, ac sy'n caniatáu i'n staff gefnogi ei gilydd wrth ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i'r cyhoedd."

Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru yn wynebu newidiadau mawr fel rhan o doriadau o filiynau o bunnoedd a gyhoeddwyd fel rhan o fesurau gan lywodraeth y DU.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.