Diwedd ar gynlluniau archfarchnad
- Published
Fydd yna ddim archfarchnad newydd yn cael ei hadeiladu yn Llanrwst am y tro.
Roedd cwmni datblygu o Sir Caer - Consolidated Property Group - wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir Conwy ynglŷn â'r posibilrwydd o ddatblygu ardal Plas yn Dre, ac a fyddai modd lleoli archfarchnad Tesco yno.
Cyngor Conwy sy'n berchen ar y rhan honno o'r dre'.
Ond mae'r datblygwyr wedi penderfynu peidio â bwrw 'mlaen â'r cynlluniau.
Sêl bendith
Ers misoedd roedd pobl leol wedi bod yn pryderu am yr effaith y gallai archfarchnad ei gael ar fusnesau lleol, gan y gallai olygu fod pobl yn cael eu tynnu o ganol y dre'.
Roedd Cyngor Conwy wedi dweud yn y gorffennol y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal petai cynlluniau llawn yn cael eu cyflwyno.
Ond ddydd Mawrth cyhoeddwyd fod y datblygwyr wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r cynlluniau.
Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tesco: "Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda'r datblygwr ond 'does 'na ddim cynlluniau ar gyfer Tesco yn Llanrwst."
Roedd disgwyl i gabinet y cyngor gwrdd brynhawn dydd Mawrth i drafod y mater.
Maen nhw wedi pwysleisio eu bod wedi rhoi sêl bendith ar gyfer cynllun datblygu i Lanrwst ac y byddan nhw'n parhau i ymgynghori gyda'r gymuned a busnesau lleol ar y cynlluniau ehangach hynny.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Mehefin 2012
- Published
- 15 Chwefror 2012