Pryder am swyddi 120 mewn becws yn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder y gallai tua 100 o bobl gael eu diswyddo yng Ngwynedd.
Dyw gweithwyr cwmni becws Cake Crew yn Y Bala ddim wedi gallu mynd i'w gwaith ers dydd Llun am fod y gatiau ar y safle wedi eu cloi.
Mae'n ymddangos bod 'na anghydfod rhwng landlordiaid y ffatri â'r cwmni cacennau.
Yn ôl llefarydd ar ran y landlord maen nhw'n hyderus y byddan nhw'n datrys y sefyllfa dros y dyddiau nesa'.
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Elfyn Llwyd, wedi dweud y byddai colli'r swyddi'n ergyd drom i ardal wledig.
Bygythiad difrifol
Mae Cake Crew yn un o brif gyflogwyr yr ardal ac yn cyflogi hyd at 120 o bobl ar gyfnodau prysur.
"Y broblem fel dwi'n deall ydi bod y cwmni sy'n gyfrifol am weinyddu asedau'r landlordiaid yn dweud bod rhaid i'r cwmni brynu'r lle neu fynd i mewn i les newydd rhag blaen," meddai Mr Llwyd.
"Dyna ydi asgwrn y gynnen, sut i ariannu...ac o le mae'r arian yn mynd i ddod."
Dywedodd Dilwyn Morgan, cynghorydd yn Y Bala eu bod yn cymryd y bygythiad yma i swyddi o ddifri.
"Mewn ardal fel Y Bala a Meirionnydd yn gyffredinol mae cyfleodd i gael swyddi yn eitha' prin.
"Mae'r bygythiad yma yn dipyn o fygythiad ac fe fyddwn i'n monitro'r sefyllfa yn agos iawn."