Pynciau'r golygyddion gwadd ar y Post Cyntaf
- Published
Tan ddiwedd yr wythnos mae enwau cyfarwydd yn olygyddion gwadd ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
Fe fyddan nhw'n trin a thrafod pynciau y maen ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw neu bynciau sy'n codi gwrychyn.
Y pedwar golygydd gwadd yw Dewi Pws, Manon Williams, Sian Lloyd a Ryland Teifi.
Yr haf a'r traeth oedd pynciau Dewi Pws ddydd Mawrth tra bod Manon Williams yn trin a thrafod twristiaeth a sgiliau pobl ifanc ddydd Mercher.
Dydd Iau fe fydd Sian Lloyd yn trafod dau bwnc sydd o ddiddordeb iddi hi, ffermydd gwynt a merched hŷn yn y cyfryngau.
Ryland Teifi oedd y golygydd gwadd olaf ddydd Gwener.
Ei ddau bwnc o oedd cymharu sefyllfa Cymru a Gweriniaeth Iwerddon a'r cwestiwn Gorau Cymro Cymro oddi cartref gan bod y canwr a'r actor bellach yn byw yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Os oes ganddoch chi sylw i'w wneud ar unrhyw bwnc sy'n cael ei godi gallwch gysylltu gyda Post Cyntaf drwy e-bost post.cyntaf@bbc.co.uk neu drwy drydar #postcyntaf.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Awst 2012
- Published
- 15 Awst 2012