Morgannwg yn cael diwrnod calonogol
- Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg ddiwrnod calonogol ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Essex yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Mercher.
Sgoriodd yr ymwelwyr 242 am 3 wiced cyn i'r glaw atal y chwarae wedi i'r capten Mark Wallace benderfynu batio ar ôl galw'n gywir.
Stewart Walters oedd arwr Morgannwg, a phan ddaeth y chwarae i ben yn gynt na'r disgwyl roedd wedi sgorio 129 heb fod allan.
Cyfrannodd Will Bragg 54 a Marcus North 24 i'r batiad yn ogystal.
Cytundeb newydd
Yn y cyfamser mae'r bowliwr cyflym Huw Walters, 25 oed, wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn sicrhau y bydd yn chwarae i Forgannwg tan 2014.
Mae Walters wedi cipio 32 wiced i Forgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd hyd yn hyn y tymor hwn ac ef yw bowliwr mwyaf llwyddiannus y clwb yn y bencampwriaeth honno.
Fe fydd bowliwr cyflym arall, John Glover, 22 oed, hefyd yn aros gyda'r sir tan 2014.
Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 20 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.
Swydd Essex v Morgannwg (Diwrnod cyntaf)
Morgannwg: (Batiad cyntaf): 242-3
Essex:
Straeon perthnasol
- 7 Mehefin 2012
- 12 Ebrill 2012
- 22 Ebrill 2012