Diogelu swyddi cwmni Cake Crew yn Y Bala
- Published
Mae tua 100 o swyddi wedi eu diogelu mewn becws yn Y Bala ar ôl i'r cwmni ddod i gytundeb gyda'r landlord.
Ddydd Llun methodd y gweithwyr â mynd i ffatri Cake Crew ar ôl cael eu cloi allan.
Roedd y landlord wedi cymryd perchnogaeth o'r safle.
Cake Crew yw un o brif gyflogwyr yr ardal ac mae'n cyflogi hyd at 120 o bobl ar gyfnodau prysur.
Roedd y gweithwyr a'r gymuned yn ehangach yn pryderu am ddyfodol y gwaith.
Ond wedi trafodaethau cafodd Cake Crew yr allweddi i ddychwelyd i'r ffatri.
"Rydym yn ddiolchgar bod y sefyllfa siomedig wedi ei ddatrys a'n bod yn ôl mewn rheolaeth o'r ffatri," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"Mae'r gwaith cynhyrchu wedi ailddechrau,
"Rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid a chyflenwyr am yr anghyfleustra dros y deuddydd diwethaf o ganlyniad i amgylchiadau oedd y tu hwnt i'n rheolaeth."
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Awst 2012