Safon Uwch: Lle i gysylltu
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cannoedd o filoedd o fyfyrwyr Safon Uwch yn aros yn eiddgar am eu canlyniadau yn ddiweddarach ddydd Iau.
Dywed prifysgolion Cymru eu bod yn disgwyl y bydd cannoedd o lefydd ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd heb sicrhau eu dewis cyntaf o goleg.
Y llynedd llwyddodd 97.2% o fyfyrwyr i gael graddau A*-E.
Bydd colegau Cymru yn cynnig llinell gymorth a gwybodaeth ar y we ar gyfer darpar fyfyrwyr a'r rhai hynny sydd heb wneud cystal â'r disgwyl.
Mae modd cael gwybodaeth am y system glirio drwy wefan UCAS neu linell gymorth ar 0871 468 0468.
Rhoddodd Steven Stokes, uwch swyddog cyfathrebu Prifysgol Fetropolitan Abertawe air o gyngor i fyfyrwyr sy'n wynebu mynd drwy'r broses glirio.
"Fe ddylai myfyrwyr gael gair o gyngor gan y gwasanaeth gyrfaoedd neu diwtoriaid am yr opsiynau sydd ar gael yn ogystal â chysylltu gyda sefydliadau sydd â llefydd gwag yn eu meysydd.
"Mae modd i'r myfyrwyr gysylltu yn uniongyrchol gyda'r sefydliadau lle mae staff arbennig ar gael i gynnig cyngor am ddewisiadau a rhoi cynnig yn syth i'r myfyrwyr.
"Ddylai myfyrwyr ddim teimlo bod eu dewisiadau yn gyfyng a derbyn y cynnig cyntaf, mae modd iddyn nhw gysylltu gyda chynifer o sefydliadau y maen nhw eisiau.
"Un o'r ffyrdd gorau i wybod mwy am sefydliad yw ymweld â'r campws ac mae nifer o lefydd yn cynnig Diwrnodau Clirio Agored, sy'n gyfle gwych i farnu'r adnoddau sydd ar gael.
"Unwaith y mae myfyriwr wedi gwneud eu dewis ac wedi derbyn cynnig dros dro, y cam nesaf yw gwneud cais yn electronig drwy system Track UCAS ac fe ddylai'r cadarnhad ddod yn fuan wedyn gan y sefydliad."
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2012