Hofrennydd yn achub dwy ferch ar draeth Cymyran ym Môn
- Published
Cafodd dwy ferch yn eu harddegau eu hachub wedi iddyn nhw gael eu 'sgubo i'r môr ger Ynys Môn.
Cafodd y ddwy, 16 a 13 oed, eu tynnu o'r dŵr gan griw hofrennydd yr Awyrlu ger Traeth Cymyran yn ymyl Rhosneigr.
Mae'r traeth llai na milltir o ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali, a dywedodd llefarydd mai hwn oedd un o'r cyrchoedd cyflymaf erioed i'r criw.
Llwyddodd yr hofrennydd i gyrraedd y traeth o fewn 38 eiliad, a'r Tywysog William oedd y peilot.
Dywedodd un aelod o'r criw bod y ferch hynaf o'r ddwy wedi blino'n llwyr ac mewn perygl o foddi.
Cafodd y ddwy eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi'r digwyddiad brynhawn Iau.
Roedd yr hofrennydd newydd lanio yn dilyn digwyddiad gwahanol pan ddaeth yr alwad i mewn, ac roedd hi'n gyfleus felly i adael o fewn eiliadau i'r ail alwad ddod i mewn.
Dywedodd llefarydd bod y ferch 16 oed wedi llwyddo i ddiolch i'r criw ar y ffordd i'r ysbyty, a dywedodd ei bod yn credu bod ei bywyd ar ben wrth iddi suddo cyn i'r criw ei chyrraedd mewn pryd.
Roedd y criw wedi cael eu galw i ddigwyddiad gwahanol yn Rhosneigr funudau yn gynt pan aeth tri phlentyn ac oedolyn i drafferthion wrth i'r llawn eu tynnu allan i'r môr, ond llwyddodd y pedwar i gyrraedd y creigiau.