Y Bala a'r Drenewydd yn rhannu'r pwyntiau ar ôl sgorio wyth gôl.
- Published
Roedd 'na dair gêm yn Uwchgynghrair Cymru wrth i'r tymor ddechrau nos Wener.
Gyda 12 gôl wedi ei sgorio yn ystod y gemau cafodd yr Uwchgynghrair ddechrau cyffrous i'r tymor newydd.
Yn ôl y drefn dros y ddau dymor diwethaf, bydd y 12 tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith cyn i'r gynghrair gael ei rhannu'n ddwy ar ddiwedd mis Ionawr 2013.
Y Seintiau Newydd 1-0 Airbus UK Brychdyn
Dechreuodd y pencampwyr - Y Seintiau Newydd - eu hymgyrch ar eu tomen eu hunain yng Nghroesoswallt gydag ymweliad Airbus UK Brychdyn
Roedd gôl Simon Spender wedi 74 munud o'r ornest yn ddigon i gipio'r tri phwynt i'r pencampwyr.
Bangor 2-1 GAP Cei Cona
Dechreuodd Bangor eu tymor yn Stadiwm Nantporth gan groesawu'r newydd-ddyfodiaid, GAP Cei Cona.
Chris Simm sgoriodd gôl gynta'r tîm cartref wedi naw munud ond fe ddaeth Cei Cona'n gyfartal pan rwydodd Dean Canning wedi 32 munud o'r ornest.
Cipiodd Bangor y pwyntiau gyda gôl ym munud ola'r gêm wrth i David Morley rwydo o'r smotyn.
Bala 4-4 Y Drenewydd
Bu'n rhaid i'r Bala a'r Drenewydd rhannu'r pwyntiau yn dilyn gêm anhygoel ar Faes Tegid nos Wener.
I bob pwrpas roedd y gêm ar ben wedi hanner awr ar ôl i'r ymwelwyr rwydo dair gwaith.
Ond sgoriodd y tîm cartref bedair gôl yn olynol gan feddwl eu bod wedi selio buddugoliaeth wych yn erbyn y tîm o'r canolbarth.
Ond llwyddodd y Frongochiaid i ddod yn gyfartal wrth i Andrew Jones rwydo ym munud ola'r gêm.
Luke Boundfield sgoriodd gôl gynta'r Drenewydd wedi saith munud a dyblodd Craig Whitfield fantais yr ymwelwyr ddwy funud yn ddiweddarach.
Shane Sutton sgoriodd drydedd gôl Y Drenewydd wedi 29 munud cyn i'r Bala daro yn ôl ddwy waith cyn yr egwyl.
Connall Murtagh sgoriodd gôl gynta'r Bala wedi 36 munud cyn i Ian Sheridan sgorio'r ail wedi 44 munud.
Daeth y Bala'n gyfartal pan rwydodd Sheridan unwaith eto ar ôl 72 munud a sgoriodd Sheridan ei drydedd gôl ddwy funud cyn diwedd yr ornest.
Ond Andrew Jones a gafodd y gair olaf pan rwydodd yntau i'r Drenewydd eiliadau cyn y chwiban olaf.
Nos Wener
Bala 4-4 Y Drenewydd
Bangor 2-1 Cei Cona
Y Seintiau Newydd 1-0 Airbus
Dydd Sadwrn
Caerfyrddin v Aberystwyth
Port Talbot v Llanelli
Prestatyn v Lido Afan
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Gorffennaf 2012