Dicter yr heddlu am ddwyn metel
- Published
Dylai'r cyhoedd wylltio bod ysgolion ac adeiladau cymunedol yn cael eu targedu gan ladron metel, yn ôl yr heddwas sydd yng ngofal taclo'r drosedd.
Dywed yr Uwch-Arolygydd Simon Clarke o Heddu'r De bod y lladron yn cael effaith ar y bobl mwyaf bregus.
Ddydd Iau cafodd rhan o'r to yn Ysgol Gynradd Tonypandy ei ddwyn, gan achosi gwerth tua £20,000 o ddifrod.
"Rwyf mor rhwystredig a dig," meddai wrth BBC Cymru.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned, cynghorau, aelodau o'r gwasanaeth iechyd, cwmnïau dŵr a thrydan a nwy ac ati ynghyd â'r Eglwys yng Nghymru i geisio diogelu adeiladau.
"Ond yn amlwg nid yw'r neges yn cael ei chlywed.
Rhywun yn gwybod
"Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad oes gan y bobl sy'n cyflawni'r troseddau yma unrhyw foesau oherwydd maen nhw'n cael effaith ar y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau."
Dywedodd Mr Clarke bod mesurau gan gynnwys cynnydd mewn teledu cylch cyfyng a chynnyrch marcio eiddo yn cael eu gweithredu.
Ond ychwanegodd: "Rwy'n credu bod yr ateb o fewn y cymunedau, oherwydd mae rhywrai yn gwybod pwy sy'n cyflawni'r troseddau yma, ac mae angen iddyn nhw gysylltu gyda ni.
"Dylai'r cyhoedd wylltio bod ysgolion unwaith eto'ncael eu targedu."
Y llynedd, roedd ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru yn awgrymu bod lladradau o'r fath wedi costio bron £680,000 i awdurdodau lleol yng Nghymru, oedd yn fwy na dwbwl y flwyddyn flaenorol.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Awst 2012