Gêm gyfartal i Forgannwg

Logo Morgannwg Image copyright Other

Gêm gyfartal gafwyd rhwng Essex a Morgannwg yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Sgoriodd Essex y cyfanswm anferthol o 520 am 9 wiced gan gynnwys cannoedd gan Tom Westley ac Owais Shah mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 438 rhediad.

Roedd y llain yn ffafrio'r batwyr yn sicr, ac er i fowlwyr y tîm cartref gael peth llwyddiant ar ddechrau ail fatiad Morgannwg, fe sicrhaodd y bartneriaeth o 180 am y bumed wiced rhwng Ben Wright a Jim Allenby na fyddai'r un tîm yn ennill y gêm ar y diwrnod olaf.

Sgoriodd Allenby 103 heb fod allan erbyn i'r chwarae ddod i ben, ac fe aeth Wright am 83 yng nghyfanswm Morgannwg o 260 am 6.

Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 21 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.

Swydd Essex v Morgannwg (Sgôr terfynol)

Morgannwg: (Batiad cyntaf): 438 (Walters 159, Bragg 54, Wagg 54)

(Ail fatiad):260-6 (Allenby 103 h.f.a., Wright 83)

Essex:(Batiad cyntaf): 520-9 (Westley 18, Shah 138, Croft 5-135)

Gêm gyfartal

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.