Tom Maynard: Taith i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae taith feics arbennig wedi cyrraedd yr Oval er cof am y cricedwr Tom Maynard fu farw ym mis Mehefin.
Roedd aelodau o'i deulu a'i ffrindiau wedi ymuno a rhai o gricedwyr a chyn-gricedwyr Morgannwg ar y daith 150 milltir o Gaerdydd i Lundain cyn y gêm rhwng Surrey a Morgannwg nos Fawrth.
Nod y daith oedd codi arian ar gyfer ymddiriedolaeth Tom Maynard fydd yn cynnig cefnogaeth i gricedwyr ac athletwyr di-freintiedig.
'Dyn gwych'
Hwn oedd digwyddiad cyntaf i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth y cricedwr 23 oed ar Fehefin 18 eleni.
Fe wnaeth Andrew Flintoff, Steve James, Will Bragg a Ryan Watkins ymuno â thad Maynard, Matthew, ar y daith.
Dechreuodd y grŵp o seiclwyr ar eu taith am 7am ddydd Llun cyn teithio 96 milltir i Newbury.
Roedden nhw'n ail-ddechrau am 8am ddydd Mawrth cyn cyrraedd Yr Oval cyn y gêm.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Matthew Maynard, a chwaraeodd i Forgannwg a Lloegr, siarad am y tro cyntaf am farwolaeth ei fab gyda BBC Cymru.
"Mae'r nifer o lythyron wnaethon ni eu derbyn yn dangos fod Tom yn ddyn gwych," meddai.
"Ni all rhiant ei wobrwyo'n well na gwybod bod eich mab wedi tyfu i fod y person roeddech chi am iddyn nhw fod."
Daeth 1,000 o bobl i angladd Maynard yng Nghadeirlan Llandaf ym mis Gorffennaf gan gynnwys enwogion y byd criced megis Andrew Flintoff, Kevin Pietersen a chapten Lloegr Andrew Strauss.
Ymchwiliad
Bu farw cyn gricedwr Morgannwg a Surrey pan gafodd ei daro gan un o drenau tanddaearol Llundain ger Wimbledon.
Cafodd y cwest i farwolaeth Maynard ei agor a'i ohirio tan Fedi 24 wrth i'r crwner, Dr Shirley Radcliffe, ddweud bod ymchwiliad trylwyr i'r farwolaeth yn parhau.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad mai'r gobaith oedd codi £20,000 ar gyfer yr ymddiriedolaeth.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2012
- 16 Awst 2012
- 12 Gorffennaf 2012
- 4 Gorffennaf 2012
- 25 Mehefin 2012
- 22 Mehefin 2012
- 20 Mehefin 2012
- 19 Mehefin 2012
- 19 Mehefin 2012
- 19 Mehefin 2012
- 18 Mehefin 2012