Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn Ffordd Dulyn, Llandudno
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad amser cinio ddydd Llun

Mae dyn lleol 66 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl dau ymosodiad yn Ffordd Dulyn, Llandudno.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ yn y stryd am 12pm ddydd Llun ar ôl derbyn adroddiadau am yr ymosodiadau honedig.

Mae dyn a dynes, sy'n byw yn lleol ac y credir eu bod yn eu 60au, wedi cael eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddau mewn cyflwr difrifol yno.

Mae'r heddlu wedi cau Ffordd Dulyn wrth i'r ymholiadau barhau.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu all eu cynorthwyo yn eu hymoliadau i gysylltu gyda nhw ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol