Canmlwyddiant i ogofau Dan yr Ogof

Dan yr Ogof
Image caption Mae 'na 100 mlynedd ers i'r Brodyr Morgan ganfod yr ogofau

Mae'n 100 mlynedd union ers i Ogofau Dan yr Ogof gael eu darganfod.

Roedd y brodyr Morgan yn ceisio darganfod tarddiad dŵr oedd yn llifo i mewn i'w ffarm ym Mhowys pan ddaethon nhw o hyd i'r ogofau.

Erbyn hyn mae Dan yr Ogof yn atyniad twristiaeth boblogaidd.

Unwaith i'r ogofau gael eu darganfod bu'r brodyr yn tywys ymwelwyr yng ngolau cannwyll.

'Trysorau celfyddydol'

Yn ôl hanesion, yn y dyddiau cynnar roedd rhaid i'r ymwelwyr nofio drwy ddŵr rhewllyd, dringo creigiau tanddaearol ac wynebu rhwystrau wedi eu gorchuddio mewn pridd.

Ond does dim rhaid i'r ymwelwyr erbyn hyn wynebu'r fath gyfyngiadau.

Er 1912 mae 'na 10 milltir o ogofau wedi eu canfod.

Mae'r atyniad yn dal i gael ei redeg gan un o ddisgynyddion y darganfyddwyr gwreiddiol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wnaeth y fyddin gymryd rheolaeth o'r ogofau.

Roedd arfau a "trysorau celfyddydol" yn cael eu storio yno.

Ac wedi i fomiau ddinistrio dinas Abertawe cafodd dŵr o'r ogofau ei ddargyfeirio i lawr i'r ddinas.

I nodi'r canmlwyddiant mae'r ogofau wedi gosod offer hydro newydd dros £300,000 gan olygu mai dyma'r ogofau "hunangynhaliol" cyntaf ym Mhrydain.

Mae modd ail-bweru ceir trydan yno erbyn hyn ac mae dros 80,000 o goed yn cael eu plannu ar y mynyddoedd y tu allan.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.