BBC Cymru Fyw

Ymosodiad: Cyhuddo dyn o geisio lladd

Published
image captionCafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad amser cinio ddydd Llun

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi bod dyn 66 wedo cael ei gyhuddo o geisio llofruddio dau berson mewn ymosodiad yn Llandudno.

Cafodd y dyn lleol ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi dau ymosodiad o drywanu honedig yn Llandudno.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn a dynes, y credir eu bod yn eu 60au, bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd heddlu arfog eu galw i dŷ yn Ffordd Dulyn o Landudno ddydd Llun am 12pm.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu all eu cynorthwyo i gysylltu gyda nhw ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

  • Ymosodiad: Heddlu'n dal i holi dyn