Hwylwyr gorau'r byd yn cystadlu yng Nghaerdydd
- Published
Fe fydd cymal y DU o'r Gyfres Hwylio Eithafol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Mae'n un o uchafbwyntiau Gŵyl Harbwr Caerdydd sy'n cael ei chynnal dros y penwythnos gan gychwyn ddydd Gwener.
Mae'r her o rasio cychod eithafol 40 ar y glannau yn denu rhai o hwylwyr proffesiynol gorau'r byd.
Eleni bydd wyth tîm rhyngwladol yn cystadlu, gan gynnwys enwogion y gamp a hwylwyr proffesiynol.
Yn eu plith mae unigolion sydd wedi ennill medalau yn y Gemau Olympaidd, unigolion sydd wedi rasio yn yr America's Cup yn y gorffennol, Pencampwyr y Byd ac unigolion sydd wedi hwylio o amgylch y byd.
Bydd y timau'n brwydro yn erbyn ei gilydd ar gyrsiau heriol a chyflym, yn aml o fewn tafliad carreg i'r lan.
Pysgod
Mae pŵer a chyflymder y cychod eithafol 40 yn golygu y gellir disgwyl gornestau cyffrous.
I gyd fynd â'r ŵyl mae Caerdydd yn cynnal Pencampwriaeth Crefft Pysgod Prydain.
Dyma'r pedwerydd tro i'r brifddinas groesawu'r bencampwriaeth.
Bydd gwerthwyr pysgod gorau'r wlad yn cystadlu.
Bydd y cyhoedd yn rhyfeddu at gyflymder, doniau a chywirdeb y gwerthwyr pysgod.
Mae 'na nifer o atyniadau eraill, gan gynnwys Marchnad Gyfandirol, arddangosfeydd i ddysgu'r grefft o baratoi a choginio pysgod, cerddoriaeth a chystadlaethau i'r cyhoedd.
Bydd amrywiaeth eang o gynnych o bedwar ban byd yn y farchnad hefyd.