Cynhyrchiad yn teithio i Taipei

Published

Bydd drama Gymraeg yn cymryd rhan yn un o brif wyliau celfyddydol Asia y mis nesaf.

Mae Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd â'r ddrama Llwyth, gan y dramodydd Dafydd James, i Ŵyl Gelfyddydol Taipei yn Nhaiwan.

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ddau gwmni berfformio mewn gŵyl cynhyrchiad yn rhyngwladol.

Daeth y gwahoddiad i fynychu Gŵyl Gelfyddydol Taipei yn dilyn perfformiadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2011.

Dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr Llwyth a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, eu bod wedi cael ymateb anhygoel yng Nghaeredin.

image copyrightDafydd James
image captionDrama am bedwar ffrind hoyw yng Nghaerdydd yw Llwyth

"Mae'r datblygiad newydd yma yn gyffrous iawn i'r cwmni wrth i ni fynd a chynhyrchiad Cymraeg ei iaith, sydd wedi bod mor boblogaidd yma yng Nghymru, ar daith i Taiwan."

Bydd un perfformiad o Llwyth yng Nghaerfyrddin ar Awst 23, cyn hedfan i brifddinas Taiwan.

Wedi dychwelyd i Gymru bydd perfformiadau pellach yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar Medi 6-7 a Sherman Cymru, Caerdydd, ar Medi 12-14.

Er mwyn apelio i gynulleidfa ddi-Gymraeg, bydd pob perfformiad gydag uwchdeitlau Saesneg.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol