Damwain yn Zambia yn lladd gweithiwr elusen o dde Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr elusen o dde Cymru wedi marw mewn damwain car yn Zambia.
Roedd Lucy Dickenson, 32 oed o'r Barri, yn cynorthwyo pobl yn y wlad i dyfu eu bwyd eu hunain.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi ei marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafodd gyrrwr y cerbyd yr oedd Ms Dickenson yn teithio ynddo ei arestio ar ôl y ddamwain.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn Zambia, Esther Mwaata Katongo, bod y gyrrwr yn teithio o Siavonga i Monze.
"Man anafiadau gafodd o yn y ddamwain.
"Cafodd ei arestio a'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus."
Roedd Ms Dickenson wedi cysegru ei bywyd i daclo tlodi.
'Ysbrydoliaeth'
Ar y pryd roedd yn dal i dderbyn triniaeth am anafiadau i'w gwddw ar ôl damwain cynharach.
Dywedir bod ei theulu, gan gynnwys ei hefaill Hannah Fitt, wedi dychryn o glywed am y ddamwain.
Roedd Ms Dickenson yn teithio'r byd ar ôl sefydlu SAFE Foundation gyda'i chwaer yn 2007.
"Roedd hi'n berson arbennig iawn a sawl dimensiwn iddi," meddai Ms Fitt.
"Roedd y gwaith gyda'r elusen yn wych ond roedd llawer mwy iddi na hynny.
"I gymaint o bobl roedd hi'n ysbrydoliaeth."
Roedden nhw'n rhedeg yr elusen i ddechrau o gartre eu mam yn Y Barri, drwy godi arian ym Mhrydain i gyllido prosiectau ym mhedwar ban y byd.
Symudodd yr elusen o Gaerdydd lle'r oedden nhw'n gweithio gyda phobl ifanc nad oedd mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae'r heddlu yn Zambia wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r ddamwain.
"Rydym yn ymwybodol o farwolaeth person o Brydain yn Zambia ac rydym yn cynnig cymorth," ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.