Arddangos pramiau mewn sioe

Published
image captionBydd hen bramiau, fel yr un yma sydd yn dyddio o 1890, yn cael eu harddangos ar y cyd gyda hen gerbydau yn Sioe Orllwyn Teifi ar 26 - 27 Awst.
image captionBydd pramiau'n dyddio o 1860 i'r 1960au i'w gweld yn y sioe.
image captionUn o'r casglwyr fydd yn arddangos yw Sian James sydd â chasgliad mawr o bramiau o wahanol fathau.
image captionYn ei chasgliad mae pram o'r un fath â'r un cafodd hi a'i brawd eu cludo ynddo.
image captionMae casglwyr yn dweud bod pramiau'n ran mawr o'n hanes cymdeithasol.
image captionMae gan y pram yma, sydd yn dyddio o 1912, ffrâm wedi ei wneud o bren.
image captionWedi tua 1965, a'r cynydd yn nefnydd ceir, daeth oes aur y pram i ben.
image captionCynhelir Sioe Orllwyn Teifi ar faes Sioe'r Siroedd Unedig, Caerfyrddin, o 26 - 27 Awst.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol